Rydym yma i'th gefnogi di

Mae'r Tîm Gwybodaeth a Phrofiad Myfyrwyr yma i helpu os oes gen ti gwestiynau, angen cyngor neu amgylchiadau personol sydd angen cymorth.

Cysyllta â ni nawr
Ffotograffau o'r tîm gwybodaeth myfyrwyr.

Sesiwn Gymorth Bwrpasol

Drwy gydol y flwyddyn, mae’r Tîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr yn cynnal sesiynau pwrpasol ar y pynciau presennol sy’n effeithio arnoch chi. 

Archwiliwch y sesiynau sydd wedi’u cynllunio a chadwch eich lle chi er mwyn ymuno!

Cymorth Academaidd

Gweler ein tudalen Cymorth Academaidd ar gyfer opsiynau cymorth academaidd yn y Gyfadran, gan gynnwys:

  • Cymorth ysgrifennu ac iaith.
  • Cymorth Mathemateg ac ystadegau.
  • Cymorth meddalwedd peirianneg.

Gweler hefyd Tudalen We y Ganolfan Llwyddiant Academaidd ar gyfer gweithdai, tiwtora unigol ac adnoddau ar-lein.

Cymorth ar gyfer dy les

Os wyt ti'n teimlo bod angen cymorth arnat ti ar gyfer dy les wrth astudio gyda ni, mae nifer o wasanaethau cymorth ac adnoddau ar gael i ti. Cysyllta â'n Tîm i drafod ymhellach ac archwilia'r adnoddau isod.

Dolenni Cyflym