Mynd i Ddigwyddiadau'r Wythnos Groeso

Cynhelir yr Wythnos Groeso rhwng 23 a 27 Medi, a bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau bob dydd. Dylet ti wneud ymdrech i fynd i'r holl ddigwyddiadau a restrir yn yr amserlen isod.

Mae digwyddiadau yn gyfle i gael cipolwg ar dy raglen radd ddewisol, gofyn cwestiynau a dod i adnabod staff a myfyrwyr yn dy adran. Edrychwn ymlaen at gwrdd â thi!

Eich Amserlen Groeso

Gweler isod am restr o ddigwyddiadau a drefnir gan eich Cyfadran a'ch Adran newydd. Ar gyfer rhai sesiynau, mae nifer o gyfleoedd i ymuno â nhw. Os nad ydych chi'n credu y gallwch chi gyrraedd y sesiwn rydyn ni wedi'i hargymell ar gyfer eich rhaglen, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwirio a oes cyfle arall yn ystod yr wythnos.

Oes angen help arnoch i ffeindio eich ffordd o gwmpas? Gweler y mapiau o Gampws SingletonChampws y Bae i'ch helpu i ddod o hyd i leoliadau pob sesiwn.

Mae'r amserlen hon yn berthnasol i'r bobl sy'n dechrau ar Daeryddiaeth Blwyddyn 0 (Sylfaen) & 1.  

23 Medi 2024  

09:00 - 16:00 - Croeso a Sefydlu, Blwyddyn 0 ac 1 - C, Ty Fulton 
Bydd staff academaidd allweddol o'ch Adran yn rhoi trosolwg i chi o'r hyn i'w ddisgwyl drwy gydol Blwyddyn 1 eich rhaglen Daeryddiaeth. Fel rhan o'r sesiwn hon, byddwn yn darparu cinio gan gynnwys amrywiaeth o opsiynau i'r rhai sydd â gofynion dietegol gan gynnwys llysieuol, feganaidd a halal. Os oes gennych alergedd (e.e. cnau, glwten), rhowch wybod i ni erbyn 12pm ar 18 Medi fan bellaf drwy lenwi'r Ffurflen Microsoft fer hon. 

12:00 - 13:00 - Canllaw Hanfodol i'ch Astudiaethau - Darlithfa, Adeliad Grove 
Dewch i gwrdd â Thîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr y Gyfadran sydd yma i'ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau. Mae'r sesiwn hon yn gyfle i archwilio'r cymorth sydd ar gael i chi fel myfyriwr ac ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych ynghylch astudio yn y brifysgol.  

25 Medi 2024 

11:30 - 13:30 - Amrywio Lleisiau - Glaniadau, Adeliad Wallace 
Ymunwch â thîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gyfadran ar gyfer pizza a gweithgareddau wrth i chi gael cyflwyniad i'r gymuned amrywiol rydych chi'n ymuno â hi yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg. 

13:00 - 16:00 - Ffair Groeso'r Holl Gyfadrannau - Create, Taliesin 
Byddwch yn clywed rhagor am ffyrdd o gymryd rhan, sut i ddod o hyd i gymorth pan fydd ei angen arnoch chi a sicrhau bod popeth yn barod gennych ar gyfer eich wythnos addysgu gyntaf. Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn cystadlaethau a chael pethau am ddim.   

26 Medi 2024  

Neilltuwyd y diwrnod hwn i roi cyfle i ti fynd i Ffair y Glas, Undeb y Myfyrwyr. Sylwer, cynhelir y ffair hon ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe ar Lôn Sgeti ac nid ar Gampws y Bae. 

Cadwa dy le drwy dudalennau Digwyddiadau Undeb y Myfyrwyr. 

 Cyn i ti gyrraedd, gwna yn siŵr dy fod ti'n archwilio pa bethau eraill sy'n digwydd y tu allan i'th adran, a'r ffyrdd y gelli di baratoi ar gyfer dy raglen unwaith dy fod ti'n cofrestru. Awgrym euraidd: clustnoda'r tair tudalen isod i gychwyn arni!