Croeso neges o'ch rhaglen - Dr Jude Clancy

Croeso i Flwyddyn Gyntaf dy radd Peirianneg Sifil. Does dim ots pa lwybr y gwnest ti ei ddilyn i gyrraedd yma, rwyt ti bellach yn wynebu heriau a chyfleoedd cyffrous dros yr ychydig flynyddoedd nesaf!

Gwna'n fawr o weithgareddau'r Wythnos Groeso i ddeall dy gwrs, polisïau'r Brifysgol a dulliau cefnogi. Gwna'n siŵr dy fod yn cymryd rhan yn y digwyddiadau cymdeithasol a fydd yn dy helpu i ddod i adnabod dy gyd-fyfyrwyr newydd - byddi di'n gweithio'n agos iawn gyda nhw'n fuan iawn. 

Fel cydlynydd dy flwyddyn, byddaf yn delio ag unrhyw broblemau sy'n codi yn ystod y flwyddyn gyntaf, gan gynnig cymorth a bod yn bwynt cyswllt ar gyfer dy adborth. Gelli di gysylltu â mi drwy e-bostio j.clancy@abertawe.ac.uk

Bydd yr wythnosau nesaf yn heriol, felly cofia ofyn am gymorth gan y timau academaidd, y dderbynfa, y llyfrgell, cymorth i fyfyrwyr a'r rhai technegol.  Rydym yn ymfalchïo yn y cymorth amrywiol sydd ar gael a byddwn yn rhoi gwybod iti am y rhain.

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â thi a'th gefnogi ar dy daith i fod yn beiriannydd sifil.

Dr Jude Clancy – Cydlynydd Peirianneg Sifil Blwyddyn 1.

Students in Geomechanics Lab

Mynd i Ddigwyddiadau'r Wythnos Groeso

Cynhelir yr Wythnos Groeso rhwng 23 a 27 Medi, a bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau bob dydd. Dylet ti wneud ymdrech i fynd i'r holl ddigwyddiadau a restrir yn yr amserlen isod.

Mae digwyddiadau yn gyfle i gael cipolwg ar dy raglen radd ddewisol, gofyn cwestiynau a dod i adnabod staff a myfyrwyr yn dy adran. Edrychwn ymlaen at gwrdd â thi!

Eich Amserlen Groeso

Gweler isod am restr o ddigwyddiadau a drefnir gan eich Cyfadran a'ch Adran newydd. Ar gyfer rhai sesiynau, mae nifer o gyfleoedd i ymuno â nhw. Os nad ydych chi'n credu y gallwch chi gyrraedd y sesiwn rydyn ni wedi'i hargymell ar gyfer eich rhaglen, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwirio a oes cyfle arall yn ystod yr wythnos.

Oes angen help arnoch i ffeindio eich ffordd o gwmpas? Gweler y mapiau o Gampws SingletonChampws y Bae i'ch helpu i ddod o hyd i leoliadau pob sesiwn.

Mae'r amserlen hon yn berthnasol i'r bobl sy'n dechrau ar Blwyddyn 1 Peirianneg Sifil.

23 Medi 2024

10:00 - 12:00 - Sgwrs Groeso, Blwyddyn 1 - 014, Y Neuadd Fawr
Bydd staff academaidd allweddol o'ch Adran yn rhoi trosolwg i chi o'r hyn i'w ddisgwyl drwy gydol Blwyddyn 1 Peirianneg Sifil.

12:00 - 14:00 - Digwyddiad Cymdeithasol Croeso gyda'r Gymdeithas Peirianneg Sifil   - 014, Y Neuadd Fawr
Cyn Ffair y Glas ddydd Mercher (25ain), dewch draw i ddod i adnabod eich Cymdeithas! Yn y sesiwn hon cynhelir cwis gan y Gymdeithas Peirianneg Sifil gyda pizza i'w fwyta a gwobrau i'w hennill!

14:00 - 15:00 - Sesiwn Galw Heibio Academaidd, Blwyddyn 1 - 014, Y Neuadd Fawr
Mae llawer i'w ddysgu yn eich dyddiau cyntaf. Os oes gennych gwestiynau, bydd eich Staff Academaidd yn gallu helpu i ateb unrhyw beth yr hoffech ei wybod am eich rhaglen.

24 Medi 2024

10:00 - 12:30 - Gweithgaredd Ymarferol Dod i Adnabod eich Ffrindiau - 108, Y Twyni
Dylai'r holl fyfyrwyr Blwyddyn 2 ar raglen Ffiseg ymuno â'r sgwrs Croeso Nôl hon lle bydd yr wybodaeth allweddol y mae ei hangen arnoch ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 yn cael ei chyflwyno gan eich staff academaidd arweiniol.

12:30 - 13:30 - Cinio - 014, Y Neuadd Fawr
Dewch i adnabod y staff yn anffurfiol yn eich adran, a sgwrsio â'ch cyd-fyfyrwyr am eich profiad hyd yn hyn. Fel rhan o'r sesiwn hon, byddwn yn darparu cinio gan gynnwys amrywiaeth o opsiynau i'r rhai sydd â gofynion dietegol gan gynnwys llysieuol, feganaidd a halal. Os oes gennych alergedd (e.e. cnau, glwten), rhowch wybod i ni erbyn 12pm ar 18 Medi fan bellaf drwy lenwi'r Ffurflen Microsoft fer hon.

13:30 - 15:00 - Cyflwyniad a Gweithgaredd yr ICE - 014, Y Neuadd Fawr
Bydd cynrychiolwyr o'r ICE wrth law i drafod rolau'r corff a sut gall helpu eich astudiaethau - a hefyd bydd cyfle i chi ymaelodi AM DDIM fel aelod myfyriwr ar y dydd.

15:00 - 16:00  - Canllaw Hanfodol i'ch Astudiaethau - B004, Adeliad Canolog Peirianneg
Dewch i gwrdd â Thîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr y Gyfadran sydd yma i'ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau. Mae'r sesiwn hon yn gyfle i archwilio'r cymorth sydd ar gael i chi fel myfyriwr ac ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych ynghylch astudio yn y brifysgol. 

25 Medi 2024

Neilltuwyd y diwrnod hwn i roi cyfle i ti fynd i Ffair y Glas, Undeb y Myfyrwyr. Sylwer, cynhelir y ffair hon ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe ar Lôn Sgeti ac nid ar Gampws y Bae.

Cadwa dy le drwy dudalennau Digwyddiadau Undeb y Myfyrwyr.

26 Medi 2024

11:30 - 13:30 - Amrywio Lleisiau - B001, Adeliad Canolog Peirianneg
Ymunwch â thîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gyfadran ar gyfer pizza a gweithgareddau wrth i chi gael cyflwyniad i'r gymuned amrywiol rydych chi'n ymuno â hi yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg.

13:00 - 16:00  - Ffair Groeso'r Holl Gyfadrannau - Atriwm, Peirianneg Gogledd
Byddwch yn clywed rhagor am ffyrdd o gymryd rhan, sut i ddod o hyd i gymorth pan fydd ei angen arnoch chi a sicrhau bod popeth yn barod gennych ar gyfer eich wythnos addysgu gyntaf. Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn cystadlaethau a chael pethau am ddim.  

Cyn i ti gyrraedd, gwna yn siŵr dy fod ti'n archwilio pa bethau eraill sy'n digwydd y tu allan i'th adran, a'r ffyrdd y gelli di baratoi ar gyfer dy raglen unwaith dy fod ti'n cofrestru. Awgrym euraidd: clustnoda'r tair tudalen isod i gychwyn arni!