Mynd i Ddigwyddiadau'r Wythnos Groeso

Cynhelir yr Wythnos Groeso rhwng 23 a 27 Medi, a bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau bob dydd. Dylet ti wneud ymdrech i fynd i'r holl ddigwyddiadau a restrir yn yr amserlen isod.

Mae digwyddiadau yn gyfle i gael cipolwg ar dy raglen radd ddewisol, gofyn cwestiynau a dod i adnabod staff a myfyrwyr yn dy adran. Edrychwn ymlaen at gwrdd â thi!

Eich Amserlen Groeso

Gweler isod am restr o ddigwyddiadau a drefnir gan eich Cyfadran a'ch Adran newydd. Ar gyfer rhai sesiynau, mae nifer o gyfleoedd i ymuno â nhw. Os nad ydych chi'n credu y gallwch chi gyrraedd y sesiwn rydyn ni wedi'i hargymell ar gyfer eich rhaglen, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwirio a oes cyfle arall yn ystod yr wythnos.

Oes angen help arnoch i ffeindio eich ffordd o gwmpas? Gweler y mapiau o Gampws SingletonChampws y Bae i'ch helpu i ddod o hyd i leoliadau pob sesiwn.

Er mwyn darparu ar gyfer holl fyfyrwyr Peirianneg Awyrofod Blwyddyn 1, mae wedi bod yn hanfodol rhannu rhai sesiynau'n grwpiau lluosog. Dyrennir eich grŵp i chi yn ystod y Sgwrs Croeso ar 23 Medi, a dylech ddefnyddio'r grŵp hwn i nodi pa sesiynau i'w mynychu drwy gydol yr wythnos. RHAID i chi fynychu'r sesiynau sy'n gysylltiedig â'r grŵp rydych chi wedi'i ddyrannu.

23 Medi 2024

10:00 - 14:30 - Croeso a Sefydlu, Blwyddyn 1 - 002, Y Twyni

Bydd staff academaidd allweddol o'ch Adran yn rhoi trosolwg i chi o'r hyn i'w ddisgwyl drwy gydol Blwyddyn 1 Peirianneg Awyrofod. Fel rhan o'r sesiwn hon, byddwn yn darparu cinio gan gynnwys amrywiaeth o opsiynau i'r rhai sydd â gofynion dietegol gan gynnwys llysieuol, feganaidd a halal. Os oes gennych alergedd (e.e. cnau, glwten), rhowch wybod i ni erbyn 12pm ar 18 Medi fan bellaf drwy lenwi'r Ffurflen Microsoft fer hon.

15:00 - 16:30 - Gwella'r Diwylliannau’r Campws - Grŵp 1 - 108, Y Twyni

Bydd eich Cyfarwyddwr Rhaglen, Dr Alex Shaw, yn arwain y sesiwn hon ar Ddiwylliant y Campws a'ch cyfrifoldebau fel myfyriwr. Mae'r sesiwn hon ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cael eu rhoi yng Ngrŵp 1. Byddwch yn cael manylion am eich grŵp yn ystod eich sesiwn Croeso a Sefydlu ar gyfer Blwyddyn 1. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd iddi.

24 Medi 2024

09:00 - 10:30 - Gwella'r Diwylliannau’r Campws - Grŵp 2 - B001, Adeliad Canolog Peirianneg

Bydd eich Cyfarwyddwr Rhaglen, Dr Alex Shaw, yn arwain y sesiwn hon ar Ddiwylliant y Campws a'ch cyfrifoldebau fel myfyriwr. Mae'r sesiwn hon ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cael eu rhoi yng Ngrŵp 2. Byddwch yn cael manylion am eich grŵp yn ystod eich sesiwn Croeso a Sefydlu ar gyfer Blwyddyn 1. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd iddi.

10:30 - 12:00 - Sesiwn Sefydlu'r Efelychydd Hedfan - Grŵp 1 - B001, Adeliad Canolog Peirianneg

Dewch i gwrdd â Maverick a Goose, yr Efelychwyr Hedfan Peirianneg Awyrofod eiconig y byddwch chi'n dod yn gyfarwydd â nhw drwy gydol eich astudiaethau a darganfod beth mae angen i chi ei wybod am y darnau allweddol hyn o offer!
Bydd y sesiwn hon wedi'i rhannu'n sawl grŵp. Byddwch yn cael manylion am eich grŵp yn ystod eich sesiwn Croeso a Sefydlu ar gyfer Blwyddyn 1.

12:00 - 13:30 - Sesiwn Sefydlu'r Efelychydd Hedfan - Grŵp 2 - B001, Adeliad Canolog Peirianneg

Dewch i gwrdd â Maverick a Goose, yr Efelychwyr Hedfan Peirianneg Awyrofod eiconig y byddwch chi'n dod yn gyfarwydd â nhw drwy gydol eich astudiaethau a darganfod beth mae angen i chi ei wybod am y darnau allweddol hyn o offer!
Bydd y sesiwn hon wedi'i rhannu'n sawl grŵp. Byddwch yn cael manylion am eich grŵp yn ystod eich sesiwn Croeso a Sefydlu ar gyfer Blwyddyn 1.

13:30 - 15:00 - Gwella'r Diwylliannau’r Campws - Grŵp 3 - B001, Adeliad Canolog Peirianneg

Bydd eich Cyfarwyddwr Rhaglen, Dr Alex Shaw, yn arwain y sesiwn hon ar Ddiwylliant y Campws a'ch cyfrifoldebau fel myfyriwr. Mae'r sesiwn hon ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cael eu rhoi yng Ngrŵp 3. Byddwch yn cael manylion am eich grŵp yn ystod eich sesiwn Croeso a Sefydlu ar gyfer Blwyddyn 1. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd iddi.

15:00 - 16:00 - Canllaw Hanfodol i'ch Astudiaethau - B004, Adeliad Canolog Peirianneg

Dewch i gwrdd â Thîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr y Gyfadran sydd yma i'ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau. Mae'r sesiwn hon yn gyfle i archwilio'r cymorth sydd ar gael i chi fel myfyriwr ac ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych ynghylch astudio yn y brifysgol. 

25 Medi 2024 

Neilltuwyd y diwrnod hwn i roi cyfle i ti fynd i Ffair y Glas, Undeb y Myfyrwyr. Sylwer, cynhelir y ffair hon ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe ar Lôn Sgeti ac nid ar Gampws y Bae. Cadwa dy le drwy dudalennau Digwyddiadau Undeb y Myfyrwyr.

26 Medi 2024

11:30 - 13:30 - Amrywio Lleisiau - B001, Adeliad Canolog Peirianneg

Ymunwch â thîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gyfadran ar gyfer pizza a gweithgareddau wrth i chi gael cyflwyniad i'r gymuned amrywiol rydych chi'n ymuno â hi yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg

13:00 - 16:00  - Ffair Groeso'r Holl Gyfadrannau - Atriwm, Peirianneg Gogledd

Byddwch yn clywed rhagor am ffyrdd o gymryd rhan, sut i ddod o hyd i gymorth pan fydd ei angen arnoch chi a sicrhau bod popeth yn barod gennych ar gyfer eich wythnos addysgu gyntaf. Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn cystadlaethau a chael pethau am ddim.  

Cyn i ti gyrraedd, gwna yn siŵr dy fod ti'n archwilio pa bethau eraill sy'n digwydd y tu allan i'th adran, a'r ffyrdd y gelli di baratoi ar gyfer dy raglen unwaith dy fod ti'n cofrestru. Awgrym euraidd: clustnoda'r tair tudalen isod i gychwyn arni!