AMGYLCHIADAU ESGUSODOL AR GYFER ASESIADAU ATODOL

Bydd dyddiadau cyfnod arholiadau atodol mis Mawrth 2025 yn cael eu cadarnhau'n fuan.

Bydd yr holl fyfyrwyr wedi eu cynnwys yn yr asesiadau atodol yn awtomatig ar gyfer unrhyw fodiwl sy'n gymwys. A wnewch chi gynllunio i fod ar gael yn ystod y cyfnod asesu atodol yn ei gyfanrwydd, gan na fydd hi'n bosib newid dyddiadau asesu ar gyfer myfyrwyr unigol.

Sylwer, gall rhai asesiadau gwaith cwrs atodol gael eu rhyddhau i fyfyrwyr yn gynnar, ac efallai bydd ganddynt ddyddiadau cau sydd y tu allan i'r prif gyfnod asesu atodol. Yn yr achosion hyn, bydd cydlynwyr modiwlau yn rhoi gwybod i fyfyrwyr. Cysylltwch â’ chydlynydd eich modiwl os oes gennych gwestiynau.

Bydd gan fyfyrwyr ag amgylchiadau esgusodol yn ystod y cyfnod hwn ddau opsiwn i'w hystyried:

Os oes gennyt gwestiynau neu os oes angen cymorth arnat, cysyllta â'r Tîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr am arweiniad.