Os ydych chi'n cael trafferth ac mae gennych amgylchiadau sy'n effeithio ar eich gallu i gwblhau neu gyflwyno asesiadau terfynol yn ystod Cyfnod Arholiadau Ionawr 2025, mae dau opsiwn i'w hystyried. Bydd yr opsiynau hyn yn berthnasol i asesiadau a gynhelir ar gyfer modiwlau Semester 1 yn ystod y cyfnod asesu rhwng 6 - 24 Ionawr 2025. 

Gweler crynodeb o'r opsiynau isod a darllen ymhellach i weld manylion o ba amgylchiadau sy'n gymwys a sut i gyflwyno cais am bob opsiwn.

Ar gyfer asesiadau gwaith cwrs eraill, dilynwch arweiniad Amgylchiadau Esgusodol ar gyfer Gwaith Cwrs Parhaus.

Opsiynau Amgylchiadau Esgusodol yn ystod Cyfnod Arholiadau Ionawr 2025

Opsiwn 1: Gohirio Asesiad

  • Gall myfyrwyr sydd ag amgylchiadau esgusodol gyflwyno cais i ohirio unrhyw un o Arholiadau Semester 1 Mis Ionawr 2025. Os caiff hwn ei gymeradwyo, mae'n rhoi opsiwn i fyfyrwyr i ohirio un neu fwy o'u harholiadau terfynol a sefyll yr asesiad sydd wedi'i ohirio yn ystod cyfnod asesu yn y dyfodol.
  • Bydd myfyrwyr nad ydynt yn eu blwyddyn olaf, sy'n cael cymeradwyaeth, yn sefyll unrhyw arholiadau a ohiriwyd yn ystod Cyfnod Arholiadau Atodol mis Awst 2025.
  • Gall myfyrwyr sydd yn eu blwyddyn olaf, sy'n cael cymeradwyaeth, ddewis naill ai sefyll arholiadau a ohiriwyd yn ystod cyfnod arholiadau mis Mai/Mehefin neu gyfnod arholiadau mis Awst 2025.

Opsiwn 2: Darpariaethau Dros Dro

  • Mae darpariaethau dros dro yn berthnasol i fyfyrwyr y mae ganddynt amgylchiadau sydyn, byr dymor sy'n effeithio arnynt yn ystod y cyfnod asesu.
  • Sylwer, os cytunwyd ar ddarpariaethau dros dro ar gyfer naill ai arholiadau ar-lein neu ar y campws, byddant yn berthnasol ar gyfer y cyfnod arholiadau dan sylw YN UNIG.   
  • Sylwer y bydd darpariaethau dros dro sydd wedi'u cytuno ar gyfer arholiadau ar-lein yn berthnasol i asesiadau sy'n para am lai na 24 awr YN UNIG.

SUT I GYFLWYNO CAIS AM OHIRIADAU A DARPARIAETHAU DROS DRO