Gwybodaeth am y Sesiynau Cymorth

Drwy gydol y flwyddyn, mae’r Tîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr yn cynnal sesiynau pwrpasol ar y pynciau presennol sy’n effeithio arnoch chi. Sgroliwch i lawr i weld yr hyn a gynllunnir a chadw eich lle chi i ymuno!

Ffair Groeso'r Holl Gyfadrannau

Byddwch yn clywed rhagor am ffyrdd o gymryd rhan, sut i ddod o hyd i gymorth pan fydd ei angen arnoch chi a sicrhau bod popeth yn barod gennych ar gyfer eich wythnos addysgu gyntaf. Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn cystadlaethau a chael pethau am ddim.  

DyddAmserLleoliad
25 Medi 2024 13:00-16:00 Create, Taliesin (Singleton)
26 Medi 2024 13:00-16:00 Atriwm, Peirianneg Gogledd (Bae)

 

Canllaw Hanfodol i'ch Astudiaethau

Bydd y Tîm Gwybodaeth a Phrofiad Myfyrwyr yn cynnal sgyrsiau 'Canllaw Hanfodol i'ch Astudiaethau' yn ystod yr Wythnos Groeso - mae'r rhain yn agored i'r holl fyfyrwyr. Bydd y sgwrs hon yn trafod yr opsiynau cymorth sydd ar gael i chi drwy gydol eich astudiaethau a sut i wneud yn fawr o'ch amser ym Mhrifysgol Abertawe.

DyddiadAmserLleoliad
26 Medi 2024 12:00 - 13:00 Ystafell B004 Adeilad Canolog Peirianneg ar Gampws y Bae
27 Medi 2024 09:00 - 10:00 Ystafell B004 Adeilad Canolog Peirianneg ar Gampws y Bae
27 Medi 2024 11:30 - 12:30 Darlithfa Wallace yn Adeilad Wallace ar Gampws Parc Singleton

Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich gweld!