Croeso i’r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn yr Wythnos Groeso!

Bydd eich amserlen Wythnos Groeso ar gael o ddydd Llun 9 Medi. Bydd rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos a gobeithiwn y bydd hon yn rhoi digon o wybodaeth ac ysbrydoliaeth i chi wrth i chi ddechrau eich rhaglen astudio. Bydd llawer o gyfleoedd hefyd i gymdeithasu â'r myfyrwyr eraill ar eich cwrs a dysgu am y cymorth a fydd ar gael i chi wrth i chi astudio. 

Rydym yn eich annog i gymryd rhan mewn cynifer o sesiynau â phosib. Bydd sesiynau gorfodol i fyfyrwyr newydd yn cael eu nodi ar yr amserlen. 

Sylwer bod hon yn wahanol i'ch amserlen addysgu a fydd ar waith pan fydd y darlithoedd yn dechrau ddydd Llun 30 Medi. 

Croeso i'r Flwyddyn Sylfaen yn y Dyniaethau! Fel llawer iawn ohonoch chi, rwy'n un o'r genhedlaeth gyntaf yn fy nheulu o gefndir dosbarth gweithiol i fynd i'r brifysgol . Felly, rwy'n deall pwysigrwydd gwneud i chi deimlo'n gartrefol yn yr amgylchedd newydd hwn. Byddwch chi'n fy ngweld yn aml yn ystod yr wythnosau nesaf, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddod i'ch adnabod chi ac at eich cefnogi gyda'ch astudiaethau. Bydd y Flwyddyn Sylfaen yn antur gyffrous drwy'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol a fydd yn rhoi i chi bopeth y bydd ei angen arnoch i fod yn llwyddiannus yn y llwybr gradd rydych chi wedi’i ddewis. Os bydd cwestiynau'n codi wrth i chi ymgartrefu, cysylltwch â fi. Byddaf yn hapus iawn i helpu.

Dr Ryan Sweet – Cyfarwyddwr Blwyddyn Sylfaen y Dyniaethau

Dydd Llun 23 Medi

10.00 - 11:00  Sgwrs Groeso - Orfodol

Adeilad Wallace, Ystafell 113

Dewch i gwrdd â chyfarwyddwr eich rhaglen a fydd yn cyflwyno eich rhaglen astudio, yn darparu gwybodaeth academaidd allweddol ac yn eich cyfeirio at adnoddau'r cwrs. 

  

12:00 - 13:00  Sesiwn Camau Cyntaf - Orfodol

Theatr Taliesin

Dyma gyfle i gwrdd â'ch Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr a fydd yn cyflwyno'r platfformau a'r systemau TG allweddol y byddwch yn eu defnyddio wrth astudio, yn amlinellu'r cymorth academaidd a lles sydd ar gael ac yn esbonio ffyrdd ychwanegol o wneud y gorau o  fywyd myfyrwyr. 

 

14.00 - 16:00 Caffi Hanes (Hanes, Astudiathau Americanaidd) 

Creu Taliesin

Dewch i gwrdd â chyfarwyddwr eich rhaglen a fydd yn cyflwyno eich rhaglen astudio, yn darparu gwybodaeth academaidd allweddol ac yn eich cyfeirio at adnoddau'r cwrs. 

 

14.00 - 16:00 Caffi'r Byd Hynafol (Y Clasuron)

Man Astudio Myfyrwyr ar lawr gwaelod Adeilad y Technium Digidol

Dewch i gwrdd â chyfarwyddwr eich rhaglen a fydd yn cyflwyno eich rhaglen astudio, yn darparu gwybodaeth academaidd allweddol ac yn eich cyfeirio at adnoddau'r cwrs. 

 

15:00 - 16:00 Sesiwn Galw Heibio - Dewisol

Unrhyw gwestiynau? Galwa heibio i sgwrsio â dy Gyfarwyddwr Rhaglen:

Dr. Ryan Sweet, Adeilad James Callaghan, Ystafell 112

 

Dydd Mawrth 24 Medi Dydd Mercher 25 Medi Dydd Iau 26 Medi Dydd Gwener 27 Medi

Sesiynau Camau Cyntaf yn y Gymraeg

Os byddai'n well gennych fynychu sesiwn Camau Cyntaf a gyflwynir yn Gymraeg, cynhelir hyn ddydd Llun 23 Medi, 11yb-12yp, Adeilad Keir Hardie, Ystafell 431. 

Oes gennych gwestiynau?

Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr eich Ysgol fydd eich cyswllt cyntaf ar gyfer cael cyngor, cyfeirio ac ymholiadau cyffredinol. Cewch gyfle i gwrdd â'r tîm yn ystod yr Wythnos Groeso, yn y sesiynau Camau Cyntaf ac yn nigwyddiadau cymdeithasol eich Ysgol.

Gallwch gysylltu â nhw drwy e-bost ac ar ôl i chi gyrraedd, galwch heibio i'w gweld yn Nerbynfa llawr tir, Techniwm Digidol ar Gampws Singleton, Derbynfa adeilad yr Ysgol Reolaeth ar Gampws y Bae.

 

Eich Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr

Lluniau o aelodau'r Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr

Cwestiynau Cyffredin