Croeso i’r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn yr Wythnos Groeso!

Bydd eich amserlen Wythnos Groeso ar gael o ddydd Llun 9 Medi. Bydd rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos a gobeithiwn y bydd hon yn rhoi digon o wybodaeth ac ysbrydoliaeth i chi wrth i chi ddechrau eich rhaglen astudio. Bydd llawer o gyfleoedd hefyd i gymdeithasu â'r myfyrwyr eraill ar eich cwrs a dysgu am y cymorth a fydd ar gael i chi wrth i chi astudio. 

Rydym yn eich annog i gymryd rhan mewn cynifer o sesiynau â phosib. Bydd sesiynau gorfodol i fyfyrwyr newydd yn cael eu nodi ar yr amserlen. 

Sylwer bod hon yn wahanol i'ch amserlen addysgu a fydd ar waith pan fydd y darlithoedd yn dechrau ddydd Llun 30 Medi. 

Dydd Llun 23 Medi

12:00 - 13:00 Sesiwn Camau Cyntaf - Orfodol

Theatr Taliesin

Dyma gyfle i gwrdd â'ch Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr a fydd yn cyflwyno'r platfformau a'r systemau TG allweddol y byddwch yn eu defnyddio wrth astudio, yn amlinellu'r cymorth academaidd a lles sydd ar gael ac yn esbonio ffyrdd ychwanegol o wneud y gorau o  fywyd myfyrwyr. 

 

14.00 - 16:00  Sgwrs Groeso - Orfodol

Adeilad Glyndwr, Darlithfa F

Dewch i gwrdd â chyfarwyddwr eich rhaglen a fydd yn cyflwyno eich rhaglen astudio, yn darparu gwybodaeth academaidd allweddol ac yn eich cyfeirio at adnoddau'r cwrs. 

 

Dydd Mawrth 24 Medi Dydd Mercher 25 Medi Dydd Iau 26 Medi Dydd Gwener 27 Medi

Sesiynau Camau Cyntaf yn y Gymraeg

Os byddai'n well gennych fynychu sesiwn Camau Cyntaf a gyflwynir yn Gymraeg, cynhelir hyn ddydd Llun 23 Medi, 11yb-12yp, Adeilad Keir Hardie, Ystafell 431. 

Oes gennych gwestiynau?

Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr eich Ysgol fydd eich cyswllt cyntaf ar gyfer cael cyngor, cyfeirio ac ymholiadau cyffredinol. Cewch gyfle i gwrdd â'r tîm yn ystod yr Wythnos Groeso, yn y sesiynau Camau Cyntaf ac yn nigwyddiadau cymdeithasol eich Ysgol.

Gallwch gysylltu â nhw drwy e-bost ac ar ôl i chi gyrraedd, galwch heibio i'w gweld yn Nerbynfa llawr tir, Techniwm Digidol ar Gampws Singleton, Derbynfa adeilad yr Ysgol Reolaeth ar Gampws y Bae.

 

Eich Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr

Lluniau o aelodau'r Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr

Cwestiynau Cyffredin