Croeso i’r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn yr Wythnos Groeso!

Bydd eich amserlen Wythnos Groeso ar gael o ddydd Llun 9 Medi. Bydd rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos a gobeithiwn y bydd hon yn rhoi digon o wybodaeth ac ysbrydoliaeth i chi wrth i chi ddechrau eich rhaglen astudio. Bydd llawer o gyfleoedd hefyd i gymdeithasu â'r myfyrwyr eraill ar eich cwrs a dysgu am y cymorth a fydd ar gael i chi wrth i chi astudio. 

Rydym yn eich annog i gymryd rhan mewn cynifer o sesiynau â phosib. Bydd sesiynau gorfodol i fyfyrwyr newydd yn cael eu nodi ar yr amserlen. 

Sylwer bod hon yn wahanol i'ch amserlen addysgu a fydd ar waith pan fydd y darlithoedd yn dechrau ddydd Llun 30 Medi. 

Dydd Mawrth 24 Medi

11.00 - 12.00: Sesiwn Camau Cyntaf - Orfodol

Adeilad Faraday, Darlithfa Faraday

Dyma gyfle i gwrdd â'ch Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr a fydd yn cyflwyno'r platfformau a'r systemau TG allweddol y byddwch yn eu defnyddio wrth astudio, yn amlinellu'r cymorth academaidd a lles sydd ar gael ac yn esbonio ffyrdd ychwanegol o wneud y gorau o  fywyd myfyrwyr. 

 

12.00 - 14.00:  Cinio Croeso Ôl-raddedig

Creu Taliesin

Mwynha bwffe ysgafn a dere i nabod myfyrwyr ôl-raddedig newydd eraill, a staff o bob rhan o'r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu.

 

14.00 - 16.00: Sgwrs Groeso - Orfodol

Adeilad James Callaghan, Ystafell 113

Dewch i gwrdd â chyfarwyddwr eich rhaglen a fydd yn cyflwyno eich rhaglen astudio, yn darparu gwybodaeth academaidd allweddol ac yn eich cyfeirio at adnoddau'r cwrs. 

 

 

 

Dydd Iau 26 Medi Dydd Gwener 27 Medi

Sesiynau Camau Cyntaf yn y Gymraeg

Os byddai'n well gennych fynychu sesiwn Camau Cyntaf a gyflwynir yn Gymraeg, cynhelir hyn ddydd Llun 23 Medi, 11yb-12yp, Adeilad Keir Hardie, Ystafell 431. 

Oes gennych gwestiynau?

Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr eich Ysgol fydd eich cyswllt cyntaf ar gyfer cael cyngor, cyfeirio ac ymholiadau cyffredinol. Cewch gyfle i gwrdd â'r tîm yn ystod yr Wythnos Groeso, yn y sesiynau Camau Cyntaf ac yn nigwyddiadau cymdeithasol eich Ysgol.

Gallwch gysylltu â nhw drwy e-bost ac ar ôl i chi gyrraedd, galwch heibio i'w gweld yn Nerbynfa llawr tir, Techniwm Digidol ar Gampws Singleton, Derbynfa adeilad yr Ysgol Reolaeth ar Gampws y Bae.

 

Eich Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr

Lluniau o aelodau'r Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr

Cwestiynau Cyffredin