Croeso i Ysgol Gwyddorau Cymdeithas

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn yr Wythnos Groeso! Cymerwch sylw fod eich amserlen addysgu yn wahanol i'r amserlen Wythnos Groeso isod. Mae dysgu ac addysgu yn dechrau ddydd Llun 30 Medi a byddwch yn darganfod sut i gael gafael ar eich amserlen addysgu yn ystod Yr Wythnos Groeso.

Dydd Mawrth 24ain Medi

11:00yb-12:00yp Sesiwn Camau Cyntaf (Darlithfa Taliesin, Canolfan Celfyddydau Taliesin) **Gorfodol**

Cwrdd â'ch Tîm Gwybodaeth a Chymorth i Fyfyrwyr a fydd yn cyflwyno'r llwyfannau a'r systemau TG allweddol y bydd eu hangen arnoch ar gyfer eich astudiaethau, amlinellu'r cymorth academaidd a lles sydd ar gael, ac egluro ffyrdd pellach o gymryd rhan ym mywyd myfyrwyr.

 

12:00-1:30yp Cinio Cymdeithasol (Llawr Gwaelod, Canolfan Celfyddydau Taliesin)

Dewch ynghyd â'ch staff academaidd yn ogystal â myfyrwyr ôl-raddedig o'ch rhaglen ac ar draws y Gyfadran am ginio bwffe am ddim!

 

2:00-4:00yp Sesiwn Groeso'r Rhaglen (Ystafell 302, Trydydd Llawr, Adeilad Keir Hardie) **Gorfodol**

Cwrdd â'ch Cyfarwyddwr Rhaglen, a fydd yn cyflwyno eich rhaglen astudio, i ddarparu gwybodaeth academaidd allweddol a'ch cyfeirio at adnoddau cwrs.

Sesiyn Camau Cyntaf yn Gymraeg 

Os byddai'n well gennych fynychu sesiwn Camau Cyntaf a gyflwynir yn Gymraeg, cynhelir hyn ddydd Llun 23 Medi, 11yb-12yp, Adeilad Keir Hardie, Ystafell 431.

Oes gennych gwestiynau?

Tîm Gwybodaeth a Chymorth Myfyrwyr eich Ysgol yw eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cyngor, cyfeirio ac ymholiadau gwybodaeth gyffredinol. Bydd cyfle i chi gwrdd â'r tîm yn ystod yr wythnos groeso yn y Sesiynau Camau Cyntaf a digwyddiadau cymdeithasol Ysgolion.

Gallwch gysylltu â nhw drwy e-bost neu, unwaith y byddwch chi yn Abertawe, gallwch alw heibio i'w gweld yn y Swyddfa Wybodaeth i Fyfyrwyr, Adeilad Technium Digidol ar Gampws Singleton, neu yn y Dderbynfa Adeiladu'r Ysgol Reolaeth, Campws y Bae, o ddydd Llun i Ddydd Gwener 9am-4pm.

Dyma rai atebion i gwestiynau cyffredin o fewn y Gyfadran. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni!

Eich Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr

Lluniau o aelodau'r Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr

Cwestiynau Cyffredin