Amserlen Wythnos Groeso

Ni'n brysur yn cwblhau eich amserlen Yr Wythnos Groeso. Daliwch i wirio'n ôl yn rheolaidd – bydd dyddiadau, amseroedd a lleoliadau'n cael eu cwblhau erbyn 14eg Medi fan bellaf.

Dydd Mawrth 24ain Medi

10:00-11.00yb  Sesiwn Sefydlu Rhaglen (Ystafell 107, Llawr Cyntaf, Adeilad Technium Digidol) **Orfodol**

Dewch i gwrdd â chyfarwyddwr eich rhaglen a fydd yn cyflwyno eich rhaglen astudio, yn darparu gwybodaeth academaidd allweddol ac yn eich cyfeirio at adnoddau'r cwrs. 

 

11:00yb-12:00yp Sesiwn Camau Cyntaf (Darlithfa Taliesin, Canolfan Celfyddydau Taliesin) **Orfodol**

Dyma gyfle i gwrdd â'ch Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr a fydd yn cyflwyno'r platfformau a'r systemau TG allweddol y byddwch yn eu defnyddio wrth astudio, yn amlinellu'r cymorth academaidd a lles sydd ar gael ac yn esbonio ffyrdd ychwanegol o wneud y gorau o  fywyd myfyrwyr. 

 

12:00-1:30yp Cinio Cymdeithasol (Atriwm, Llawr Gwaelod, Adeilad Richard Price)

Dewch ynghyd â'ch staff academaidd yn ogystal â myfyrwyr ôl-raddedig o'ch rhaglen ac ar draws y Gyfadran am ginio bwffe am ddim!

 

2:00-3:15yp Sefydlu Llyfrgell (Ystafell G36, Llawr Gwaelod, Adeilad Richard Price)  **Orfodol**

Darganfyddwch sut i gael mynediad at yr holl gymorth sydd ar gael i chi drwy ein Gwasanaethau Llyfrgell gan gynnwys benthyciadau llyfrau, mannau astudio, adnoddau ar-lein, cyfeirnodi, dod o hyd i gyngor camymddwyn academaidd a mwy!

 

3:15-4:15yp Sesiwn Lles Ymchwilwyr (Ystafell 107, Llawr Cyntaf, Adeilad Technium Digidol)  **Orfodol**

 

4:15-5:00yp Daith Y Ganolfan Ymchwil I Seiberfygythiadau (Y Ganolfan Ymchwil I Seiberfygythiadau, Ail Lawr, Adeilad Technium Digidol)  **Orfodol**

Taith o amgylch yr Ystafell CYTREC arbenigol dan arweiniad eich Cyfarwyddwr Rhaglen.

Sesiyn Camau Cyntaf yn Gymraeg 

Os byddai'n well gennych fynychu sesiwn Camau Cyntaf a gyflwynir yn Gymraeg, cynhelir hyn ddydd Llun 23 Medi, 11yb-12yp, Adeilad Keir Hardie, Ystafell 431.

Oes gennych gwestiynau?

Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr eich Ysgol fydd eich cyswllt cyntaf ar gyfer cael cyngor, cyfeirio ac ymholiadau cyffredinol. Cewch gyfle i gwrdd â'r tîm yn ystod yr Wythnos Groeso, yn y sesiynau Camau Cyntaf ac yn nigwyddiadau cymdeithasol eich Ysgol.

Gallwch gysylltu â nhw drwy e-bost ac ar ôl i chi gyrraedd, galwch heibio i'w gweld yn Nerbynfa'r llawr cyntaf, y Techniwm Digidol

Dyma atebion i rai cwestiynau cyffredin yn y Gyfadran. Os oes gennych ragor o gwestiynau, mae croeso i chi anfon e-bost atom ni!

Eich Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr

Lluniau o aelodau'r Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr

Cwestiynau Cyffredin