Beth sy'n digwydd?
Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe (ACA) yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau i’ch helpu chi i wneud cysylltiadau â chyflogwyr, ynghyd â chynnig hyfforddiant datblygu sgiliau, gweithdai a rhaglenni cyflogadwyedd.
O’n ffair yrfaoedd unigryw flynyddol i sesiynau sgiliau unigol a magu hyder a sesiynau galw heibio gyda chyflogwyr, mae rhywbeth at ddant pawb, waeth ble fyddant ar eu taith yrfa.
Caiff ein calendr llawn o ddigwyddiadau ei gynnal ar ein Parth Cyflogaeth. Bydd angen i fyfyrwyr fewngofnodi i gofrestru am ddigwyddiadau. Gall graddedigion Abertawe barhau i gyrchu’r Parth Cyflogaeth. Yr unig beth bydd angen i chi ei wneud fydd cofrestru am gyfrif cyn-fyfyriwr gan ddefnyddio eich e-bost personol.
*Os byddwch chi'n colli mynediad at eich cyfrif, e-bostiwch ni employmentzone@abertawe.ac.uk i gael mynediad eto.
Pam dylwn ni ddod i ddigwyddiadau gyrfaoedd? Sut bydd yn fy helpu?
Trefnwyd ein calendr o ddigwyddiadau a gweithgareddau i’ch helpu chi i archwilio eich opsiynau gyrfa, gan ddatblygu eich sgiliau cyflogadwyedd, pontio i’r gweithle fel gweithiwr proffesiynol hyderus a chreu cysylltiadau â chyflogwyr.
Ffair Yrfaoedd
Mae ein ffair yrfaoedd unigryw flynyddol yn ffordd wych o archwilio amrywiaeth eang o sefydliadau sy’n awyddus i recriwtio myfyrwyr. Rhwydweithio a chreu cysylltiadau â chyflogwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Gofyn cwestiynau a chael blas ar sut mae cyflogwyr yn recriwtio i rolau sydd o ddiddordeb i chi, mewn amgylchedd cefnogol.
Cynhelir y Ffair Yrfaoedd Nesaf ar:
Campws Singleton: Dydd Mawrth 15 Hydref
Campws y Bae: Dydd Mercher 16 Hydref
Mwy o wybodaeth yn dod yn fuan.
Ffair Swyddi Rhan-Amser
Os oes gennyt ddiddordeb mewn dod o hyd i swydd ran-amser, dyma rywbeth i ti! Fel arfer fe'i cynhelir ar ddechrau mis Hydref a dechrau mis Chwefror bob blwyddyn. Ymuna â busnesau lleol sydd am lenwi swyddi rhan-amser.
Cynhelir ein Ffair Swyddi Rhan-amser nesaf
ddydd Mawrth 1 Hydref 2024
Rhagor o fanylion yn dod yn fuan.
Cwrdd â'r Cyflogwr
Yn y cyfamser, gallwch ddod i sesiwn Cwrdd â'r Cyflogwr! Dyma gyfle gwych i siarad â chyflogwyr â diddordeb ym myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Gallwch rwydweithio, dysgu am y swyddi gwag sydd ar gael a chael gwybod am beth mae cyflogwyr yn chwilio amdano mewn ymgeiswyr.
Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol a'r Hysbysfwrdd Swyddi Digidol i gael gwybod pwy fydd yn ymuno â ni nesaf!