Mae’r fwrsariaeth cyflogadwyedd yn cynnig cymorth ariannol i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe i helpu wrth ddatblygu gyrfa. Gall eich helpu i gyrchu cyllid er mwyn talu costau sy’n gysylltiedig â chyflogadwyedd, megis teithio i gyfweliadau am swyddi, cael cyfarpar ar gyfer gweithio o bell, dillad busnes ac eitemau tebyg.
Bydd ceisiadau ar agor rhwng 05/02/2024 ac 05/02/2024. Cyflwynwch gais yma nawr.
Cymhwysedd
I gyflwyno cais am y fwrsariaeth, rhaid eich bod chi’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae galw mawr am ein bwrsariaethau. Rhoddir blaenoriaeth i’r myfyrwyr â’r angen mwyaf am gyllid, i helpu i gael gwared â rhwystrau ariannol i gyflogadwyedd.
Ffenestr Geisiadau
Rydym ni’n agor ceisiadau ar gyfer ein bwrsariaeth cyflogadwyedd am gyfnod penodol yn ystod semester un a semester dau. Dyrannwyd yr holl gyllid ar gyfer y flwyddyn academaidd hon.
Bydd ceisiadau ar agor rhwng 05/02/2024 ac 05/02/2024. Cyflwynwch gais yma nawr.
Grant Cymdeithasau Undeb y Myfyrwyr (SUSU)
Gall Cymdeithasau Undeb y Myfyrwyr (SUSU) gyflwyno cais am hyd at £100 o gyllid i helpu tuag at ddigwyddiadau rhwydweithio a gyrfaoedd. Gellir cyrchu rhagor o wybodaeth a’r ffurflen gais yma.
Os oes gennych chi gwestiynau, e-bostiwch ni employmentzone@abertawe.ac.uk
Cysylltwch â Parth Cyflogaeth