cyfrifiannell

Nid sgìl bywyd yw rhifedd yn unig, ond mae deall mathemateg yn helpu i ddatblygu sgiliau wrth feddwl yn feirniadol a datrys problemau – sgiliau y gellir eu defnyddio drwy gydol eich astudiaethau academaidd ac yn ystod eich gyrfa yn y dyfodol. 

Yma gallwch archwilio’r gweithdai byw sydd gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd i’w cynnig dros yr ychydig wythnosau nesaf ar thema Mathemateg.


Dydd Mawrth 1af Hydref 2024

Cyflwyniad i Fatricsau

Mae'r gweithdy hwn yn archwilio matricsau a'u trefn, ychwanegu a thynnu matricsau, lluosi matrics â sgalar, hunaniaeth a matrics sero, cyfreithiau ar gyfer gweithrediadau sylfaenol matricsau, a throsi matrics.

 Ar-lein trwy Zoom
  Dydd Mawrth 1af Hydref 2024
  12:00 - 13:00 BST

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Matricsau wedi'u hysgrifennu ar bapur

Dydd Mercher 2il Hydref 2024

Cyflwyniad i Fatricsau

Mae'r gweithdy hwn yn archwilio matricsau a'u trefn, ychwanegu a thynnu matricsau, lluosi matrics â sgalar, hunaniaeth a matrics sero, cyfreithiau ar gyfer gweithrediadau sylfaenol matricsau, a throsi matrics.

 Campws Singleton
  Dydd Mercher 2il Hydref 2024
  12:00 - 13:00 BST

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Matricsau wedi'u hysgrifennu ar bapur

Dydd Iau 3ydd Hydref 2024

Mynegiadau Mathemategol

Mae mynegiadau mathemategol yn rhifau, yn weithredwyr ac yn symbolau sydd wedi'u grwpio i 'fynegi' neu 'ddangos' gwerth. Unwaith y byddwch yn deall egwyddorion trin mynegiadau, gallwch ffactoreiddio a symleiddio mynegiadau. Mae'r gweithdy hwn yn archwilio casglu termau tebyg, ehangu cromfachau, ffactoreiddio mynegiadau cwadratig a thrin ffracsiynau algebraidd.

  Campws Bae
  Dydd Iau 3ydd Hydref 2024
  12:00 - 13:00 BST

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Hafaliadau ar ddarn o bapur

Logarithmau a Mynegrifau

Mae gwybodaeth am fynegeion yn hanfodol er mwyn deall y rhan fwyaf o brosesau algebraidd. Yn y gweithdy hwn, byddwn yn dysgu am raddau a rheolau ar gyfer eu trin. Ar ben hynny, byddwn yn archwilio logarithmau a mynegrifau.

  Campws Bae
  Dydd Iau 3ydd Hydref 2024
  13:00 - 14:00 BST

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Hafaliadau ar ddarn o bapur