gliniadur

Sgiliau digidol yw'r ffordd rydych yn trin, cyflwyno a chyfleu gwybodaeth a chynnwys gan ddefnyddio offer a phlatfformau digidol. Mae hyn yn cynnwys datrys problemau, arloesi, a chreu cynnwys a chyfryngau digidol, yn academaidd ac yn broffesiynol.

Yma gallwch archwilio’r gweithdai byw sydd gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd i’w cynnig dros yr ychydig wythnosau nesaf ar y thema Sgiliau Digidol.


Dydd Llun 30ain Medi 2024

Egwyddorion Dylunio Sleidiau

Ydy'ch cyflwyniadau’n dal sylw’ch cynulleidfa? Yn ein gweithdy dylunio sleidiau dysgwch ganllawiau call i wneud y gorau o Microsoft PowerPoint, creu cyflwyniadau mwy deniadol ac osgoi'r camgymeriadau sylfaenol sy'n colli diddordeb eich cynulleidfa.

Ar-lein trwy Zoom
Dydd Llun 30ain Medi 2024
10:00 - 12:00 BST

sgiliau digidol, PowerPoint, dylunio sleidiau

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
sleidiau cyflwyniad ar gyfrifiadur

Dydd Mawrth 1af Hydref 2024

Dod i adnabod LaTeX

Mae'r gweithdy hwn yn ganllaw i ddechreuwyr i ysgrifennu dogfennau yn LaTeX gan ddefnyddio Overleaf. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol nac unrhyw iaith gyfrifiadura arall ar gyfer y gweithdy hwn, bydd yn ymdrin â hanfodion LaTeX gan gynnwys strwythur y ddogfen, testun cysodi, tablau, ffigurau, hafaliadau a mewnosod cyfeiriadau.

  Ar-lein trwy Zoom
  Dydd Mawrth 1ail Hydref 2024
  16:00 - 17:00 BST

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Meddalwedd LaTeX ar gyfrifiadur

Dydd Mercher 2il Hydref 2024

Defnydd effeithlon o OneDrive

Wedi colli ffeil erioed neu gael trafferth rheoli fersiynau? Mae'r gweithdy hwn yn esbonio sut i drefnu eich OneDrive myfyriwr er mwyn rheoli ffeiliau'n effeithlon fel y gallwch gyrchu, trefnu a diwygio eich ffeiliau ar unrhyw ddyfais.

  Campws Singleton
  Dydd Mercher 2ail Hydref 2024
 14:00 - 15:00 BST

 sgiliau digidol, OneDrive, rheoli ffeiliau

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
defnyddio gliniadur a ffôn symudol

Cael y gorau o Outlook

Byddwch yn dysgu elfennau allweddol e-bost proffesiynol. Mae'r gweithdy hwn hefyd yn trafod sut i flaenoriaethu'r e-byst rydych yn eu derbyn, rheoli digwyddiadau yn eich calendr, creu rhestr o dasgau a rhannu ffeiliau mewn ffyrdd gwahanol.

 Campws Singleton
 Dydd Mercher 2ail Hydref 2024
15:00 - 16:00 BST

 sgiliau digidol, Outlook, e-byst, calendr, rhestrau tasgau

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
person yn edrych rhywbeth i fyny ar eu cyfrifiadur