Gallwch archebu lle er mwyn cael apwyntiad unigol unwaith yr wythnos i gael cyngor wedi ei deilwra ar elfennau penodol o’ch gwaith academaidd. Gallwch wneud y mwyaf o’ch apwyntiad os ydych yn paratoi ymlaen llaw gan feddwl am y pethau penodol yr hoffech chi gael adborth arnynt.

I drefnu'r apwyntiadau hyn bydd gofyn i chi fewngofnodi gan ddefnyddio'ch e-bost a'ch cyfrinair Prifysgol.

Trefnwch apwyntiad i helpu gyda:

Ysgrifennu
Myfyriwr mewn apwyntiad ysgrifennu

Mae'r apwyntiadau hyn fel rheol yn mynd i'r afael ag ymholiadau ynghylch strwythur aseiniad, gramadeg, ansawdd ysgrifennu ac arddangos sgiliau allweddol yn eich gwaith.Nid yw'r apwyntiadau hyn yn wasanaeth prawfddarllen ac nid ydynt yn ymdrin ag ymholiadau fformatio.

Archebwch apwyntiad:

Sgiliau Microsoft Cyflwyno cyflwyniad Paratoi Arholiadau Mathemateg Ystadegau Cyfrwng Cymraeg

Sylwer: Gall tîm pwnc y Llyfrgell eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth a chyfeirnodi ar gyfer eich aseiniad.