Ar hyn o bryd rydym yn datblygu rhaglen gyffrous o weithgareddau ar gyfer eich Croeso a'ch Cynefino!
Yn y cyfamser, gwnewch nodyn o'r dyddiadau allweddol isod, edrychwch ar neges groeso gan eich Pennaeth Ysgol, a dilynwch ni ar Instagram i gael blas ar yr holl bethau cyffrous y byddwch chi'n gallu cymryd rhan ynddynt yn ein cymuned Ysgol a'r Gyfadran.
Canolfan Rhaglenni Ymarfer Proffesiynol
Ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio LLM y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol (PAC), LLM Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol (PLP) neu LLM Ymarfer Cyfreithiol a Drafftio Uwch (LPC), nodwch fod dyddiadau'r Wythnos Croeso a'r addysgu yn wahanol i'n rhaglenni prif ffrwd. Cliciwch ar y ddolen berthnasol isod i weld manylion eich rhaglen.
- Ymarfer Cyfreithiol a Drafftio Uwch
- Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol
- Y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol
Pob rhaglen arall
Ar gyfer pob rhaglen arall, cynhelir eich Wythnos Croeso ac Ymsefydlu yn yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 23 Medi. Bydd amserlenni'ch Wythnos Croeso ar gael ar y dudalen hon o 14 Medi 2024.