Croeso I Ysgol Y Gyfraith Hillary Rodham Clinton

Mae eich amserlen Wythnos Groeso isod! Cymerwch sylw fod eich amserlen addysgu yn wahanol i'r amserlen Wythnos Groeso isod. Mae dysgu ac addysgu yn dechrau ddydd Llun 30ain Medi a byddwch yn darganfod sut i gael gafael ar eich amserlen addysgu yn ystod Yr Wythnos Groeso.

Dydd Mawrh 24ain Medi

11:00yb-12:00yp Sesiwn Croesawu ac Sefydlu'r Rhaglen (Ystafell G35, Llawr Gwaelod, Adeilad Richard Price) **Gorfodol**

Cwrdd â'ch Cyfarwyddwr Rhaglen a staff academaidd allweddol eraill, a fydd yn cyflwyno eich rhaglen astudio, yn darparu gwybodaeth academaidd allweddol a'ch cyfeirio at adnoddau cwrs

 

12:00-1:00yp Sesiwn Camau Cyntaf (Ystafell G36, Llawr Gwaelod, Adeilad Richard Price) **Gorfodol**

Cwrdd â'ch Tîm Gwybodaeth a Chymorth i Fyfyrwyr a fydd yn cyflwyno'r llwyfannau a'r systemau TG allweddol y bydd eu hangen arnoch ar gyfer eich astudiaethau, amlinellu'r cymorth academaidd a lles sydd ar gael, ac egluro ffyrdd pellach o gymryd rhan ym mywyd myfyrwyr.

 

1:00-2:00yp Cyfarfod Cymdeithasol a Chinio Cyfarch (Atriwm, Llawr Gwaelod, Adeilad Richard Price)

Dewch i adnabod eich cyd-ddisgyblion a'ch darlithwyr newydd dros ginio bwffe am ddim! 

 

2:00-3:15yp Anwytho Llyfrgell (Ystafell G36, Llawr Gwaelod, Adeilad Richard Price) **Gorfodol**

Dysgwch sut i gael mynediad i'r holl help sydd ar gael i chi drwy ein Gwasanaethau Llyfrgell gan gynnwys benthyciadau llyfrau, mannau astudio, adnoddau ar-lein, cyfeirio, dod o hyd i gyngor camymddwyn academaidd a mwy!

Oes gennych gwestiynau?

Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr eich Ysgol fydd eich cyswllt cyntaf ar gyfer cael cyngor, cyfeirio ac ymholiadau cyffredinol. Cewch gyfle i gwrdd â'r tîm yn ystod yr Wythnos Groeso, yn y sesiynau Camau Cyntaf ac yn nigwyddiadau cymdeithasol eich Ysgol.

Gallwch gysylltu â nhw drwy e-bost ac ar ôl i chi gyrraedd, galwch heibio i'w gweld yn Nerbynfa'r llawr cyntaf, y Techniwm Digidol

Dyma atebion i rai cwestiynau cyffredin yn y Gyfadran. Os oes gennych ragor o gwestiynau, mae croeso i chi anfon e-bost atom ni!

Cwestiynau Cyffredin