Croeso I Ysgol Y Gyfraith Hillary Rodham Clinton

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi ar eich Diwrnod Croeso a Sylfaen ar ddydd Iau 12fed Medi! Mae rhaglen amrywiol o sesiynau, a fydd, gobeithio, yn eich llywio a'ch cymell wrth i chi ddechrau eich astudiaethau gyda ni. Byddwch hefyd yn cael digon o gyfleoedd i gwrdd â'ch cyd-fyfyrwyr a dysgu am yr holl gefnogaeth sydd ar gael i chi.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen yr amserlen isod yn ofalus, gan nodi'n arbennig a oes angen i chi fynychu'r sesiwn h.y., mae rhai sesiynau ar gyfer pob myfyriwr Blwyddyn 1 newydd, mae rhai ar gyfer myfyrwyr sy'n dychwelyd yn unig ac mae rhai ar gyfer pob myfyriwr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd.

Dydd Iau 12fed Medi

11:30yb-1:00yp Cyflwyniad i LPC & LLM Ymarfer Cyfreithiol a Drafftio Uwch

Lleoliad: Darlithfa Faraday, Llawr Cyntaf, Adeilad Faraday

**Myfyrwyr Blwyddyn Newydd 1 LLAWN-AMSER YN UNIG**

 

1:00-1:30yp Cyfarfodydd Grŵp Tiwtor Personol

Lleoliad: Bydd gwybodaeth yn cael ei phostio yn Hyb Canvas LPC gyda manylion am ba grŵp rydych chi ynddo.

**Myfyrwyr Blwyddyn Newydd 1 LLAWN-AMSER YN UNIG**

 

1:00-2:00yp Croeso yn ôl Sgwrs

Lleoliad: Online via Zoom

**MYFYRWYR RHAN-AMSER BLWYDDYN 2 YN UNIG**

 

1:30-2:30yp Egwyl Cinio a Chasgliad Llawlyfr

Dewch i gasglu eich llawlyfrau ar unrhyw adeg yn y slot amser uchod.

Lleoliad: Swyddfa Gwybodaeth Myfyrwyr ar lawr gwaelod yr Adeilad Technium Digidol.

**Myfyrwyr Blwyddyn Newydd 1 LLAWN-AMSER YN UNIG**

 

2:30-4:00yp Gweithdy: Cyflwyniad i Addysgu Grwpiau Bach

Dewch i gasglu eich llawlyfrau ar unrhyw adeg yn y slot amser uchod.

Lleoliad: Bydd gwybodaeth yn cael ei phostio yn Hyb Canvas LPC gyda manylion am ba grŵp rydych chi ynddo.

**Myfyrwyr Blwyddyn Newydd 1 LLAWN-AMSER YN UNIG**

 

4:00-5:00yp Sesiwn Panel Cyflogadwyedd

Lleoliad: Darlithfa Richard Price, Llawr Gwaelod, Adeilad Richard Price

**Myfyrwyr Blwyddyn Newydd 1 LLAWN-AMSER YN UNIG**

Oes gennych gwestiynau?

Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr eich Ysgol fydd eich cyswllt cyntaf ar gyfer cael cyngor, cyfeirio ac ymholiadau cyffredinol. Cewch gyfle i gwrdd â'r tîm yn ystod yr Wythnos Groeso, yn y sesiynau Camau Cyntaf ac yn nigwyddiadau cymdeithasol eich Ysgol.

Gallwch gysylltu â nhw drwy e-bost ac ar ôl i chi gyrraedd, galwch heibio i'w gweld yn Nerbynfa'r llawr cyntaf, y Techniwm Digidol

Dyma atebion i rai cwestiynau cyffredin yn y Gyfadran. Os oes gennych ragor o gwestiynau, mae croeso i chi anfon e-bost atom ni!

Cwestiynau Cyffredin